Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant

Pwnc

Pecyn cymorth

Dyddiad cyhoeddi

27.03.2023

Darllen yr adnodd

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant

Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Gorffennaf 2017

Datblygwyd y pecyn cymorth hwn i gefnogi pobl sy’n gweithio mewn lleoliadau chwarae, blynyddoedd cynnar ac addysg i ddarparu chwarae rhannau rhydd.

Mae’n anelu i:

  • gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch gwerth chwarae rhannau rhydd a’i le mewn chwarae plant
  • darparu arweiniad ymarferol ynghylch chwarae rhannau rhydd i’r rheini sy’n gweithio gyda phlant a phlant yn eu harddegau
  •  argymell defnyddio rhannau rhydd wrth ddatblygu cyfleodd chwarae yn y cartref, yr ysgol ac yn y gymuned.

Yn y pecyn cymorth hwn, rydym yn cynnwys enghreifftiau a dyfyniadau o leoliadau sy’n defnyddio rhannau rhydd fel rhan o’u darpariaeth chwarae. Mae’r rhain wedi eu casglu o amrywiaeth o leoliadau, yn cynnwys y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ysgolion a phrosiectau cymunedol.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar Loose Parts Play, pecyn cymorth a gyd-ysgrifennwyd gan Theresa Casey a Juliet Robertson. Cynhyrchwyd yn wreiddiol gan Inspiring Scotland, mewn cydweithrediad â Grŵp Strategaeth Chwarae Yr Alban a’i ariannu gan Lywodraeth Yr Alban. Rydym wedi ei addasu, gyda’u caniatâd caredig, i adlewyrchu’r cyd-destun a’r cefndir cyfreithiol yng Nghymru.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Pecyn cymorth | 27.03.2023

Datblygu a rheoli mannau chwarae Datblygu a rheoli mannau chwarae

Mae’r pecyn hwn wedi ei ddylunio ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am reoli neu ddatblygu man chwarae cymunedol.

Gweld

Pecyn cymorth | 27.03.2023

Creu mannau chwarae hygyrch Creu mannau chwarae hygyrch

Pecyn i gynorthwyo’r bobl hynny sy’n rhan o ddatblygu ac uwchraddio mannau chwarae hygyrch.

Gweld

Pecyn cymorth | 27.03.2023

Datblygu a rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Datblygu a rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Canllaw ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am reoli neu ddatblygu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd neu rai sy’n bodoli eisoes.

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors