Llyfrgell adnoddau
Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant
Pwnc
Pecyn cymorth
Dyddiad cyhoeddi
27.03.2023
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Gorffennaf 2017
Datblygwyd y pecyn cymorth hwn i gefnogi pobl sy’n gweithio mewn lleoliadau chwarae, blynyddoedd cynnar ac addysg i ddarparu chwarae rhannau rhydd.
Mae’n anelu i:
- gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch gwerth chwarae rhannau rhydd a’i le mewn chwarae plant
- darparu arweiniad ymarferol ynghylch chwarae rhannau rhydd i’r rheini sy’n gweithio gyda phlant a phlant yn eu harddegau
- argymell defnyddio rhannau rhydd wrth ddatblygu cyfleodd chwarae yn y cartref, yr ysgol ac yn y gymuned.
Yn y pecyn cymorth hwn, rydym yn cynnwys enghreifftiau a dyfyniadau o leoliadau sy’n defnyddio rhannau rhydd fel rhan o’u darpariaeth chwarae. Mae’r rhain wedi eu casglu o amrywiaeth o leoliadau, yn cynnwys y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ysgolion a phrosiectau cymunedol.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar Loose Parts Play, pecyn cymorth a gyd-ysgrifennwyd gan Theresa Casey a Juliet Robertson. Cynhyrchwyd yn wreiddiol gan Inspiring Scotland, mewn cydweithrediad â Grŵp Strategaeth Chwarae Yr Alban a’i ariannu gan Lywodraeth Yr Alban. Rydym wedi ei addasu, gyda’u caniatâd caredig, i adlewyrchu’r cyd-destun a’r cefndir cyfreithiol yng Nghymru.