Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Ysgol chwarae-gyfeillgar

Pwnc

Canllaw

Dyddiad cyhoeddi

28.05.2024

Darllen yr adnodd

Ysgol chwarae-gyfeillgar

Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Mai 2024

Mae’r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth ar bolisi ac ymarfer i helpu cymunedau ysgolion fabwysiadu agwedd ysgol gyfan i gefnogi hawl plant i chwarae.

Mae wedi ei ddatblygu er mwyn ymateb i adroddiad Estyn Iach a hapus – Effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion, sy’n nodi pwysigrwydd amserau chwarae ac egwyl mewn ysgolion.

Mae’r canllaw hwn wedi ei ddylunio i gyfoethogi’r gwaith da sy’n cael ei wneud eisoes i ddarparu gwell cyfleoedd chwarae mewn ysgolion. Mae’n anelu i wneud amser pawb yn yr ysgol yn hapusach ac yn iachach.

Gyda’r canllaw ceir casgliad o adnoddau cefnogol i’w lawrlwytho:

  • Bod yn llysgennad chwarae
  • Datblygu canllawiau ar gyfer amser chwarae yn ystod tywydd gwael
  • Gwarchod amser chwarae
  • Templed llythyr i rieni – Chwarae allan ym mhob tywydd
  • Templed – Cynllun amser chwarae ysgol
  • Awgrymiadau anhygoel ar gyfer cefnogi chwarae plant.

Mae Ysgol chwarae gyfeillgar – Canllaw ar gyfer agwedd ysgol gyfan yn cael ei gymeradwyo gan: Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, Plant yng Nghymru, Health & Attainment of Pupils in a Primary Education Network (HAPPEN) a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR).

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Canllaw | 28.09.2023

Cymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru Cymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru

Mae’r canllaw yn rhoi trosolwg o ba gymwysterau sydd ar gael a beth yw’r gofynion cyfreithiol ar gyfer gweithwyr chwarae a rheolwyr.

Gweld

Canllaw | 28.03.2023

Cymunedau Chwareus Cymunedau Chwareus

Mae’r canllaw hwn yn edrych ar sut i wneud yn siŵr bod gan blant ddigon o le, amser a chaniatâd i chwarae yn eu bywydau bob dydd.

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors