Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Agor strydoedd ar gyfer chwarae

Pwnc

Pecyn cymorth

Dyddiad cyhoeddi

27.03.2023

Darllen yr adnodd

Agor strydoedd ar gyfer chwarae

Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Mawrth 2019

Mae’r pecyn cymorth hwn ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a’u partneriaid. Bydd yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer cymdeithasau tai, cymunedau ysgolion, gweithwyr cymunedol a thrigolion lleol.

Mae’n darparu gwybodaeth glir a chryno ar gau strydoedd i draffig er mwyn i blant allu chwarae. Mae’n cynnwys gwybodaeth y bwriedir iddo helpu pobl i ddeall a mynd i’r afael â materion o bwys. Mae hefyd yn cynnwys templedi ac arfau cam wrth gam, ymarferol fydd yn cefnogi chwarae stryd.

Mae’r pecyn cymorth yn anelu i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau fydd yn galluogi prosiectau chwarae stryd wedi eu harwain gan drigolion yn eu hardaloedd. Bydd hefyd yn helpu cymdeithasau tai, cymunedau ysgolion, gweithwyr cymunedol a thrigolion lleol i ddeall y cyfleoedd a’r heriau.

I ddatblygu’r pecyn cymorth hwn, fe weithiom gyda Playing Out, y mudiad sy’n cefnogi chwarae stryd trwy’r DU. Cafodd y pecyn cymorth a’r adnoddau cysylltiedig eu hysbysu gan Raglen Beilot Chwarae Stryd Caerdydd yn ogystal â’r mudiad chwarae stryd ledled y DU, ac maent yn cyfeirio at becyn cymorth Playing Out – Toolkit for Local Authorities.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Llyfrgell adnoddau | 22.04.2025

Creu mannau chwarae hygyrch – pecyn cymorth Creu mannau chwarae hygyrch – pecyn cymorth

Pecyn i gynorthwyo’r bobl hynny sy’n rhan o ddatblygu ac uwchraddio mannau chwarae hygyrch.

Gweld

Llyfrgell adnoddau | 14.03.2025

Agor tiroedd ysgol ar gyfer chwarae – pecyn cymorth Agor tiroedd ysgol ar gyfer chwarae – pecyn cymorth

Mae’r pecyn hwn wedi ei ddatblygu i gefnogi ysgolion i gynnig cyfleoedd i blant chwarae yn yr ysgol y tu allan i oriau ysgol

Gweld

Canllaw | 30.01.2025

Chwarae y tu allan mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar – pecyn cymorth Chwarae y tu allan mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar – pecyn cymorth

Pecyn cymorth ar gyfer lleoliadau ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar, wedi'i anelu at gynyddu cyfleoedd i blant chwarae a threulio mwy o amser y tu allan, gyda offer a thempledi i gynorthwyo gyda hwyluso chwarae’r tu allan.

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors