Llyfrgell adnoddau
Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu
Pwnc
Pecyn cymorth
Dyddiad cyhoeddi
01.11.2015
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Tachwedd 2015
Mae’r pecyn cymorth hwn wedi ei anelu at benaethiaid, llywodraethwyr a mudiadau lleol. Mae’n annog agwedd gydweithredol i agor tiroedd ysgol i blant lleol chwarae y tu allan i’r diwrnod ysgol.
Mae’r pecyn cymorth yn darparu gwybodaeth glir a chryno er mwyn helpu i asesu os yw’n ymarferol gwneud yn siŵr bod tiroedd ysgol ar gael ar gyfer chwarae plant y tu allan i oriau addysgu. Mae’n tanlinellu ystod amrywiol o faterion fydd angen eu hystyried. Mae hefyd yn cynnwys dyfyniadau gan benaethiaid ac astudiaethau achos sy’n arddangos gwahanol fodelau ar gyfer agor tiroedd ysgolion.
Mae’r templedi defnyddiol canlynol ar gael i’w lawrlwytho hefyd:
- Memorandwm cyd-ddealltwriaeth
- Archwiliad man chwarae
- Cwestiynau a nodiadau ar gyfer hwyluswyr
- Polisi rheoli risg
- Asesiad risg-budd
- Gwiriadau man chwarae cyffredin
- Polisi chwarae ysgol.