Llyfrgell adnoddau
Datblygu a rheoli mannau chwarae
Pwnc
Pecyn cymorth
Dyddiad cyhoeddi
27.03.2023
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Ebrill 2021
Mae’r pecyn hwn wedi ei ddylunio ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am reoli neu ddatblygu man chwarae cymunedol. Mae hyn yn cynnwys aelodau o gyngor cymuned, cymdeithas chwarae leol neu grŵp trigolion.
Bwriedir iddo fod yn ffynhonnell cefnogaeth unigol i helpu grwpiau cymunedol lywio eu ffordd trwy rai o’r heriau o reoli neu ddatblygu man chwarae. Mae’r pecyn cymorth yn darparu gwybodaeth glir a chryno, yn ogystal â chanllawiau cam-wrth-gam a thempledi. Mae’n cwmpasu dwy brif thema:
- Dylunio – sy’n canolbwyntio ar ddylunio mannau chwarae newydd, yn cynnwys pynciau fel cyfranogaeth, caffael, dylunio a rheoli risg (y cyfeirir ato’n aml fel ‘iechyd a diogelwch’).
- Rheoli – sy’n canolbwyntio ar sut i reoli man chwarae sy’n bodoli eisoes, neu sydd newydd ei greu, yn cynnwys pynciau fel cynnal a chadw ac archwilio, rheoli risg ac yswiriant.
Fe weithiom gyda Ludicology i adolygu a diweddaru’r pedwerydd argraffiad hwn o’r pecyn cymorth.