Llyfrgell adnoddau
Welingtons Croen Llewpard, Het Silc a Phiben Sugnwr Llwch…
Pwnc
Ymchwil
Dyddiad cyhoeddi
27.03.2023
Darllen yr adnodd
Awduron: Stuart Lester a Wendy Russell
Dyddiad: Mai 2013
Mae’r astudiaeth hon yn archwilio sut y bu i awdurdodau lleol ymateb i ran gyntaf y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae i asesu os yw eu hardal yn darparu digon o gyfleoedd chwarae ar gyfer plant.
Mae’n defnyddio data o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae 20 o awdurdodau lleol, ynghyd â dogfennau perthnasol eraill a chyfweliadau. Mae’r adroddiad yn cloi gyda phedwar ‘amod allweddol’ argymelledig fyddai’n cefnogi awdurdodau lleol i gynnal y momentwm a gynhyrchir gan y broses Asesiad Digonolrwydd Chwarae.
Yr amodau allweddol hyn yw:
- Cynnal dialog
- Meithrin cymuned barhaus o ddysg ac arfer
- Cydnabod cymhwysedd plant a chyfrifoldeb oedolion tuag at gyd-ddoethineb
- Arbrofi.