Cym | Eng

Gwaith chwarae

Yr Hawl Cyntaf – prosesau dymunol

Pwnc

Gwaith chwarae

Dyddiad cyhoeddi

27.03.2023

Yr Hawl Cyntaf – prosesau dymunol

Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: 2002

Mae’r llyfr hwn yn darparu fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae lefel uwch. Mae’n ddilyniant i Yr Hawl Cyntaf … fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae a bwriedir iddo gael ei ddarllen a’i ddefnyddio ar y cyd â’r gyfrol gyntaf.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn canolbwyntio ar y fframwaith uwch ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae. Mae Yr Hawl Cyntaf – prosesau dymunol wedi ei rannu’n bum prif adran sy’n cwmpasu:

  • Ansawdd mewn ymarfer gwaith chwarae – cyflwyniad
  • Y fframwaith uwch – beth yw asesiad a gwaith chwarae o ansawdd uwch a pham ydyn ni ei angen?
  • Y broses – mecanweithiau chwarae a moddau ymyrryd; beth ydym yn ei asesu a’i raddio, ynghyd â’r angen am fyfyrio cywir a gonest
  • Mecanweithiau chwarae – gweithdrefnau, diffiniadau ac esboniadau
  • Moddau ymyrryd – gweithdrefnau, diffiniadau ac esboniadau.

Mae’r uwch fframwaith wedi ei dylunio i helpu gweithwyr chwarae profiadol i fod yn fwy myfyriol a dadansoddol am eu gwybodaeth a’u hymarfer personol. Mae’n anelu i gynorthwyo gweithwyr chwarae profiadol i lunio barn ynghylch effaith ac effeithlonrwydd eu hymarfer gwaith chwarae.

Mae gennym gyflenwad cyfyngedig o gopïau caled sydd ar gael i’w prynu am £15 (yn cynnwys pris postio yn y DU). Os hoffech gopi, cysylltwch gyda ni.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors