Cym | Eng

Hawl i chwarae

Hwyl yn y dwnjwn

Pwnc

Hawl i chwarae

Dyddiad cyhoeddi

27.03.2023

Hwyl yn y dwnjwn

Awdur: plant a’u rheini yn Ysgol Gynradd Mount Stuart
Dyddiad: April 2018

Mae’r llyfr stori hwn wedi ei anelu at blant ysgol gynradd a’u rhieni. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer ymarferwyr i gefnogi eu gwaith gyda phlant a theuluoedd.

Mae’r stori am hawl plant i chwarae. Mae’n anelu i alluogi plant ac ysbrydoli rhieni i ymgyrchu dros gyfleoedd chwarae yn eu cymdogaethau.

I ddatblygu’r llyfr stori, fe wnaethom weithio gyda storïwr, darlunydd, a phlant a’u rheini yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yng Nghaerdydd. Trwy gyfres o weithdai, cefnogodd y storïwr grŵp o blant a rhieni i ddynodi materion a dathliadau sy’n gysylltiedig â chwarae. Gyda’i gilydd fe wnaethant greu geiriau a delweddau ar gyfer y stori – yn cynnwys darluniau ysbrydoledig gan y plant wnaeth helpu ein darlunydd i ddod â’r stori’n fyw.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors