Buddiannau i gefnogwyr
Buddiannau I gefnogwyr Chwarae Cymru
Mae bod yn Gefnogwr Chwarae Cymru yn rhoi ystod o fuddiannau i chi – o ostyngiad ar brisiau ein digwyddiadau, i gael golwg gyntaf ar adnoddau newydd i gyfleoedd i gyfrannu at ein hymgyrchoedd.
Buddiannau i gefnogwyr
Dysgu mwy am y buddiannau
- Gostyngiad ar brisiau ein digwyddiadau – rydym yn trefnu digwyddiadau yn rheolaidd, a hynny ar-lein ac wyneb yn wyneb hefyd. Fel Cefnogwr, byddwch yn derbyn gostyngiad a’r brisiau, gan ei gwneud hyd yn oed yn haws i chwarae rhan weithredol ac i gysylltu gyda phobl o’r un meddwl.
- Golwg gyntaf ar adnoddau newydd – mae Cefnogwyr Chwarae Cymru’n cael mynediad cynnar i’r cyhoeddiadau, yr ymchwil a’r adroddiadau diweddaraf, gan eich hysbysu am y datblygiadau chwarae a gwaith chwarae diweddaraf.
- Cyfrannu at weithgareddau a syniadau ymgyrchu – fel Cefnogwr Chwarae Cymru, cewch gyfle i ddweud eich dweud. Gallwch ymuno â grwpiau ffocws, cymryd rhan mewn holiaduron, ac ateb cwestiynau ymchwil er mwyn helpu i wella cyfleoedd chwarae plant yn lleol ac yn genedlaethol.
- E-fwletinau misol – bydd ein e-fwletinau misol yn eich helpu i gadw llygad ar yr holl newyddion diweddaraf ym meysydd gwaith chwarae a chwarae. Bydd dod yn Gefnogwr yn golygu y byddwch yn derbyn y newyddion diweddaraf ar chwarae plant, i gyd mewn un lle.
- Cael eich hysbysu am ymgynghoriadau allweddol – chi fydd y cyntaf i glywed am ymgynghoriadau newydd a chael cyfle i ddweud eich barn wrthym. Mae’r ymgynghoriadau hyn yn ffordd wych o gyfrannu at ddatblygu Cymru sy’n chwarae-gyfeillgar.
- Lobïo dros newid – trwy ymuno â ni fel Cefnogwr Chwarae Cymru, gallwch ein helpu i lobïo dros newid ble bynnag mae ei angen. Mae ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn helpu i sicrhau bod ein gwaith yn ffeithiol, yn hygyrch, ac yn sicrhau newid.
- Enwebu a chael eich enwebu i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru – fel Cefnogwr Chwarae Cymru, gallwch enwebu a chael eich enwebu i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru.
Buddiannau i Gefnogwyr Rhyngwladol
Mae ein buddiannau aelodaeth i Gefnogwyr Rhyngwladol yn gyfyngedig gan mai Cymru yw ein hardal gofrestredig o fudd elusennol.
Mae buddiannau i Gefnogwyr Rhyngwladol yn cynnwys:
- Golwg gyntaf ar adnoddau newydd
- E-fwletinau misol
- Hysbysiadau am ymgynghoriadau allweddol
- Cyfleoedd i lobïo dros newid.