Llyfrgell adnoddau
Ffocws ar chwarae – Chwarae a theithio llesol
Pwnc
Papur briffio
Dyddiad cyhoeddi
18.11.2026
Darllen yr adnodd
Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae yn ystyried sut gall teithio llesol gefnogi hawl plant i chwarae, a sut gall ffocws cryf ar chwarae helpu i greu llwybrau cerdded, olwyno a beicio sy’n gweithio’n well ar gyfer plant, teuluoedd a chymunedau. Mae’r papur briffio hwn ar chwarae a theithio llesol ar gyfer timau trafnidiaeth, cynllunio, priffyrdd, iechyd y cyhoedd a chwarae awdurdodau lleol, yn ogystal ag aelodau etholedig.
Mae’r Ffocws ar chwarae hwn yn cefnogi adran chwarae ym mhennod Creu Lleoedd Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, sy’n annog agwedd ‘Chwarae ar y Ffordd’. Mae Chwarae ar y Ffordd’ yn agwedd sy’n eiriol dros integreiddio chwarae fel rhan o, ac o amgylch, llwybrau cerdded, olwyno a beicio.
Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am:
- pam fod chwarae a theithio llesol yn perthyn gyda’i gilydd
- polisi chwarae rhyngwladol a chenedlaethol
- yr hyn fydd plant yn ei elwa oddi wrth agwedd ‘Chwarae ar y Ffordd’ a beth fydd yn tarfu ar hyn
- ystyriaethau ar gyfer creu teithio llesol cyfeillgar at blant
- egwyddorion ar gyfer creu teithio llesol sy’n gyfeillgar at chwarae
- strydoedd chwarae: creu lle ar riniog y drws
- canolbwyntio ar y daith.