Cym | Eng

News

Cyhoeddi canllawiau Deddf Teithio Llesol wedi eu diweddaru

Date

10.11.2026

Category

News

Archwiliwch

Mae Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol wedi eu diweddaru, a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru, yn cynnwys adran am chwarae yn y bennod Creu Lleoedd. Mae’r canllawiau newydd yn annog agwedd ‘Chwarae ar y Ffordd’, dull sy’n eiriol dros integreiddio chwarae, o fewn ac o amgylch llwybrau cerdded, beicio ac olwyno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu canllawiau i’w gwneud yn haws i’w ddeall a’i ddefnyddio – maent yn cymryd lle fersiwn 2021. Mae’r canllawiau yn anelu i helpu awdurdodau lleol i gynllunio a dylunio llwybrau cerdded, olwyno a beicio da.

Mae’r diweddariadau yn cynnwys:

  • mwy o ffocws ar wneud lleoedd hygyrch a chroesawgar
  • mwy o bwyslais ar wahanu cerdded, olwyno, a beicio lle bo’n bosibl
  • ffyrdd cliriach o gofnodi ac esbonio penderfyniadau dylunio.

Yn y canllawiau, mae Llywodraeth Cymru yn dweud:

‘Mae creu cyfleoedd i chwarae yn ymwneud â chyfiawnder gofodol i blant a’u mynediad teg a chyfiawn i’r parth cyhoeddus … bydd atgyfnerthu teithio llesol a chyfyngu ar draffig modur yn helpu i greu cyfleoedd chwarae ac yn helpu plant i deimlo’n fwy hyderus i gerdded, olwyno a beicio.’

Rhagor o wybodaeth

Dysgwch fwy am sut gall teithio llesol gefnogi hawl plant i chwarae yn rhifyn newydd Ffocws ar chwarae.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors