Cym | Eng

Newyddion

Rhifyn newydd o gylchgrawn Chwarae dros Gymru

Date

22.10.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae rhifyn newydd cylchgrawn Chwarae dros Gymru yn archwilio polisi chwarae ac yn dathlu ymarfer chwareus, gydag esiamplau o ar draws Cymru a thu hwnt.

Ledled Cymru, rydym wedi hen gydnabod, eiriol dros a dathlu hawl plant i chwarae trwy bolisi, deddfwriaeth ac arfer da. Trwy’r rhifyn hwn, rydym yn arddangos sut mae polisi, partneriaethau ac ymarfer yn cynorthwyo i hyrwyddo hawl plant i chwarae a chreu mwy o gyfleoedd i blant chwarae.

Yn y rhifyn ‘O bolisi i ymarfer chwareus’ (Gwanwyn | Haf 2026) rydym yn canolbwyntio ar:

  • Hyrwyddo hawl plant i chwarae: uchafbwyntiau cydweithio a gweithgareddau Diwrnod Rhyngwladol Chwarae a Diwrnod Chwarae yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
  • Ymrwymiad parhaus i bolisi chwarae: cyfweliad nodwedd gyda Sioned Williams AS, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, a myfyriad gan Llywodraeth Cymru ar y cynnydd ar gyfer chwarae drwy’i Adolygiad Gweindogol o Gyfleoedd Chwarae.
  • Cyfoethogi chwarae mewn ysgolion: esiamplau ysbrydoledig gan awdurdodau lleol ar draws Cymru, crynodeb o sut mae polisi addysg yn cefnogi chwarae, a erthygl nodwedd ar sut mae newidiadau chwareus wedi cael effaith gadarnhaol mewn ysgol gynradd.
  • Gwaith chwarae a gweithwyr chwarae: dathlu derbynyddion cyntaf Chwarae o Safon, dysgu mwy am Llwybr i Waith Chwarae, sef rhaglen hyfforddiant newydd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, adolygiad o Fforwm Gweithwyr Chwarae eleni a chyfweliad dan y chwyddwydr gyda Arweinydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.

Lawrlwytho cylchgrawn Chwarae dros Gymru

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors