Cym | Eng

Newyddion

Pecyn cymorth newydd: Chwarae y tu allan mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar

Date

29.01.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Rydym wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd, Chwarae y tu allan mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, sydd a’r nôd o gefnogi darpariaeth cyfleoedd chwarae y tu allan i fabanod, plant bach a phlant iau mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Mae’r pecyn cymorth wedi’i anelu at ymarferwyr ac asiantaethau sy’n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, a sefydliadau sy’n anelu i ymgysylltu gyda theuluoedd. Cafodd ei ddatblygu mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerwysg a Phrifysgol Stirling – Yr Athro Helen Dodd, Dr. Lily FitzGibbon a Gill Hearnshaw. Derbyniodd Chwarae Cymru arian oddi wrth Dîm Lleol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i beilota a chyhoeddi’r pecyn cymorth hwn.

Mae’r pecyn cymorth yn tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae i blant o bob oedran a chreu amgylchedd chwarae cyfoethog. Mae’r pecyn cymorth wedi’i ddylunio i:

  • ddarparu gwybodaeth glir a chryno i leoliadau ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar i gynyddu cyfleoedd i blant yn eu gofal chwarae a threulio mwy o amser y tu allan
  • darparu dulliau ymarferol, cam wrth gam a thempledi i gynorthwyo gyda hwyluso chwarae’r tu allan
  • darparu fframwaith ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer ymarferwyr.

Lawrlwythwch y pecyn cymorth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors