Cym | Eng

Newyddion

Green Space Index 2026 Fields in Trust

Date

21.10.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Fields in Trust (FIT) wedi cyhoeddi’r canlyniadau diweddaraf o’i fynegai blynyddol, y Green Space Index (GSI). Mae hwn yn adnodd data sy’n olrhain argaeledd a hygyrchedd parciau, meysydd chwarae, caeau chwarae a mannau gwyrdd ledled Prydain Fawr.

Dengys canfyddiadau 2026 bod rhai ardaloedd ym Mhrydain Fawr yn mwynhau lefelau uchel o fynediad i barciau cyhoeddus, darpariaeth mannau gwyrdd fesul person sy’n uwch na’r cyfartaledd, neu nifer cynyddol o fannau sydd wedi’u diogelu’n gyfreithiol, tra bod eraill yn methu â chyrraedd y safonau hyn – gan waethygu anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol sy’n bodoli eisoes.

Yng Ngwynedd, nid yw bron i chwarter y trigolion (23%) yn byw o fewn taith gerdded 10 munud i barc sydd ar agor i’r cyhoedd, er bod yr ardal yn un wledig iawn ac yn cynnig dwywaith cymaint o fannau gwyrdd fesul person â’r cyfartaledd ar gyfer Prydain Fawr.

Mae’r canfyddiadau hefyd yn dangos nad oes gan 12% o bobl yng Nghymru a 9% o bobl yn yr Alban fynediad – o fewn taith gerdded 10 munud – i fan gwyrdd cyhoeddus, o’i gymharu â chyfartaledd o 8% yn Lloegr.

Dywedodd Fields in Trust:

‘Mae parciau, meysydd chwarae, caeau chwarae a mannau gwyrdd sy’n hygyrch i bawb yn hanfodol ar gyfer cymunedau iach a hapus. Rhaid i ni ddiogelu mannau gwyrdd hamdden sy’n bodoli eisoes yn gyfreithiol, a chreu parciau newydd o ansawdd uchel hefyd, er mwyn atal anghydraddoldeb rhag dyfnhau a chadw i fyny â thargedau tai a newidiadau yn y boblogaeth. Bydd hyn yn sicrhau y bydd cymunedau’n elwa arnynt am genedlaethau i ddod.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors