Cym | Eng

Newyddion

29th World Play Conference – galwad am bapurau

Date

21.10.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r International Council for Children’s Play (ICCP) yn galw am bapurau ar gyfer ei 29th World Play Conference. Thema’r gynhadledd yw Chwarae yn 21ain Ganrif.

Croesewir crynodebau gan ymchwilwyr sy’n astudio chwarae o unrhyw ddisgyblaeth, gan gynnwys safbwyntiau hanesyddol sy’n cynnig mewnwelediadau i chwarae plant yn yr 21ain ganrif. Gall is-themâu posibl gynnwys:

  • Hyrwyddo Tegwch a Mynediad trwy Chwarae
  • Chwarae Cynhwysol a Safbwyntiau o Astudiaethau Anabledd
  • Chwarae Rhyng-genhedlaethol mewn Cymdeithas Gyfoes
  • Chwarae Cymdeithasol, Perthnasoedd, a Rhyngweithiadau rhwng Oedolion a Phlant
  • Chwarae yn yr Oes Ddigidol: Cyfleoedd a Heriau.

Cynhelir y gynhadledd, a drefnir ar y cyd â’r Ysgol Addysg, Dyniaethau ac Ieithoedd ym Mhrifysgol Oxford Brookes, yn Rhydychen rhwng 23 a 25 Mehefin 2027.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors