Cym | Eng

Digwyddiad arall

Cyfres Arweinyddiaeth Estynedig DARPL ar gyfer y sector gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar

Dyddiad

06/02 - 02/04/2025

Pris (aelod)

Am ddim

Trefnydd

DARPL

Lleoliad

Yn bersonol ac ar-lein

Amcanion y gyfres Arweinyddiaeth Estynedig yw rhoi cyfle i’r garfan gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar o arweinwyr ac ymarferwyr i:

  • cydnabod gwerth a phwysigrwydd dysgu proffesiynol gwrth-hiliol fel continwwm ar draws y blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae
  • galluogi gwerthfawrogiad o ffyrdd newydd o weithio ar gyfer newid critigol gweithredol cynaliadwy trwy arweinyddiaeth broffesiynol wrth-hiliol
  • rhannu profiadau rhwng cyfoedion drwy sgwrs ar gyfer datblygu cymuned ymarfer
  • galluogi arweinwyr i ddatblygu/cyfrannu at gynlluniau strategol sy’n cyd-fynd ag argymhellion adroddiad yr Athro Charlotte Williams a Chynllun Gweithredu Cymru Gwrth-Hiliol Llywodraeth Cymru (ARWAP)
  • defnyddio a chyd-greu offer ac adnoddau i arfarnu a llywio eu diwylliant sefydliadol eu hunain yn feirniadol
  • archwilio a datblygu llythrennedd hiliol.

Canlyniadau Cyfres Dysgu Proffesiynol DARPL

Ar ôl cwblhau’r gyfres hon gyda DARPL yn llwyddiannus, bydd y garfan yn barod i:

  • adnabod arweinyddiaeth gwrth-hiliol ac ymarfer proffesiynol
  • codi ymwybyddiaeth drwy hunanfyfyrio dilys estynedig, gan gynnwys archwiliadau o “wynder” (whiteness), dynameg pŵer mewn arweinyddiaeth ac ymarfer proffesiynol
  • diffinio (o fewn eu cyd-destun proffesiynol eu hunain) arferion allweddol arweinyddiaeth gwrth-hiliol ac ecwiti hil.
  • arwain/creu mannau diogel a dewr yn eu sefydliadau/ymarfer proffesiynol drwy ddiwygio polisi ac ymarfer
  • creu deunyddiau, polisi ac adnoddau i gefnogi ymarfer a lles proffesiynol gwrth-hiliol
  • gweithredu dysgu proffesiynol yng nghyd-destun eu gwaith eu hunain
  • ymchwilio i’r heriau/rhwystrau sy’n bodoli i arweinwyr wrth symud o arfer cynhwysol cyffredinol i ddiwylliant sefydliadol cyfan gwrth-hiliol
  • datblygu meddwl beirniadol am degwch hiliol yn ymarferol.

Manylion y sesiynau

Mae pum sesiwn yn y gyfres hon (tri wyneb yn wyneb a dau ar-lein) rhwng Chwefror ac Ebrill 2025. Mae angen i gyfranogwyr ymrwymo i fynychu’r gyfres gyfan.

  • Chwefror 6, 9.00am – 3.30pm (amser i’w cadarnhau) – sesiwn wyneb yn wyneb
  • Chwefror 18, 9.30am – 12.00pm – ar-lein
  • Mawrth 6, 9.00am – 3.30pm (amser i’w cadarnhau) – sesiwn wyneb yn wyneb
  • Mawrth 19, 12.00pm -2.30pm – ar-lein
  • Ebrill 02, amser i’w cadarnhau – sesiwn wyneb yn wyneb
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors