Digwyddiad arall
Cyflwyniad i Fodel Lundy a Chyfranogiad Pobl Ifanc
Dyddiad
25 Tachwedd 2026
Amser
9:30am - 4:00pm
Pris (aelod)
Am ddim
Pris (ddim yn aelod)
Am ddim
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Canolfan Halliwell, Caerfyrddin
Mae’r hyfforddiant undydd hwn yn archwilio sut i gynnwys plant a phobl ifanc yn ystyrlon mewn gwneud penderfyniadau, gan ddefnyddio Model Cyfranogiad Lundy. Dysgwch sut i greu Gofod, Llais, Cynulleidfa a Dylanwad fel bod pobl ifanc yn llywio gwasanaethau sy’n effeithio arnynt.
Beth cyfranogwyr yn ennill:
- dealltwriaeth glir o hawliau plant a phobl ifanc
- adnoddau ymarferol a chyfleoedd myfyrio i ddatblygu dulliau cynhwysol a chyfranogol
- mwy o hyder i symud y tu hwnt i symbolaeth a thuag at gyd-gynhyrchu
- mewnwelediad i’r dulliau a’r fframweithiau sy’n sail i gyfranogiad
- amser i rwydweithio a rhannu arfer gorau gydag eraill.
Anelir y cwrs hwn at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn addysg, gwaith ieuenctid, awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol.