Digwyddiad arall
Grŵp F Diogelu Ar Gyfer Uwch Arweinwyr
Dyddiad
25 Tachwedd 2026
Amser
9:30am - 4:00pm
Pris (aelod)
Gweler y wefan
Pris (ddim yn aelod)
Gweler y wefan
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Mae Diogelu Grŵp F ar gyfer Uwch Arweinwyr yn rhaglen undydd, arlein, wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer Prif Swyddogion Gweithredol, Cyfarwyddwyr a Chadeiryddion Bwrdd. Mae’n meithrin hyder wrth oruchwylio arferion diogelu, cryfhau llywodraethu a chyflawni dyletswyddau statudol, wrth gefnogi cyfranogwyr i greu diwylliant lle mae diogelu yn gyfrifoldeb pawb.
Trwy hwyluso arbenigol, trafodaeth a dysgu myfyriol, bydd cyfranogwyr yn dyfnhau eu dealltwriaeth o ddeddfwriaeth, rheoli risg, ymateb i ddigwyddiadau difrifol a gweithio amlasiantaeth effeithiol. Bydd cyfle hefyd i ddysgu ochr yn ochr â chyfoedion, rhannu heriau a myfyrio ar sut olwg sydd ar arweinyddiaeth ddiogelu gref yn ymarferol.
Anelir y cwrs hwn at uwch arweinwyr yn y sector cyhoeddus, annibynnol a’r trydydd sector, fel y’u diffinnir yn Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ar Ddiogelu (Grŵp F).