Archwiliwch
Rhwng 5 a 9 Hydref mae’n Wythnos Chwarae mewn Gofal Iechyd, sef wythnos ymwybyddiaeth flynyddol sy’n dangos pwysigrwydd darparu’r cyfle, lle ac amser i blant chwarae mewn ysbytai.
I nodi’r wythnos ac i godi ymwybyddiaeth, rydym yn cyhoeddi prosiect chwarae mewn gofal iechyd newydd a rhannu adnoddau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae i blant ac arddegwyr sy’n gleifion mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill. Fe anelir yr adnoddau at y rheini sy’n gyfrifol am ddarparu cyfleoedd i blant o bob oed i chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd, megis ysbytai a hosbisau plant.
Taflen wybodaeth Chwarae mewn gofal iechyd
Mae’r daflen wybodaeth hon yn trafod effaith gadarnhaol chwarae ar les plant ac arddegwyr sy’n profi salwch difrifol a thriniaeth mewn ysbyty. Mae’n disgrifio’r gwahanol rolau medrus ac arbenigol sydd gan y gweithlu chwarae iechyd ac yn trafod sut mae pob rôl yn cefnogi proses chwarae therapiwtig sy’n helpu plant sâl i addasu i leoliad gofal iechyd.
Mae Chwarae mewn gofal iechyd hefyd yn egluro pam ei bod yn bwysig darparu gwahanol fannau a chyfleoedd i blant mewn lleoliadau gofal iechyd chwarae, gan gynnwys ystafelloedd chwarae, mannau i blant hŷn a gofod awyr agored.
Ffocws ar chwarae – Chwarae mewn gofal iechyd
Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae yn cynnig gwybodaeth am bwysigrwydd chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd, ar gyfer lles a hapusrwydd plant. Mae’n esbonio sut y profwyd bod chwarae’n cael effaith gadarnhaol ar les plant ac arddegwyr mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd, a’u gallu i ymdopi gydag ofn, poen a thriniaeth.
Wedi ei gymeradwyo gan Starlight Children’s Foundation, mae’r papur briffio hwn hefyd yn disgrifio buddiannau economaidd darparu chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae hefyd yn gwneud argymhellion ar gyfer polisi gofal iechyd yng Nghymru mewn perthynas â gwella darpariaeth chwarae mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd.
Prosiect Chwarae’n Dda yng Nghymru
Mae Chwarae Cymru wedi dechrau gweithio gyda Starlight – elusen y DU ar gyfer chwarae mewn gofal iechyd – i drosglwyddo prosiect Chwarae’n dda yng Nghymru. Bydd y prosiect, a ddyluniwyd i gefnogi dull strategol tuag at chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd ar draws Cymru, yn rhedeg am gyfnod o ddwy flynedd. Mae’n canolbwyntio ar wreiddio pecyn cymorth Play Well (a ddatblygwyd gan GIG Lloegr) mewn dwy Ymddiriedolaeth y GIG yng Nghymru, ynghyd â darparu cymorth i deuluoedd a hyfforddiant proffesiynol i gryfhau arddulliau seiliedig ar chwarae mewn gofal pediatrig.
Mae’r pecyn cymorth Play Well, a gyhoeddwyd gan GIG Lloegr a Starlight yn 2025, yn dwyn ynghyd arweiniad ar gomisiynu a dylunio gwasanaeth, safonau argymelledig a rhestr wirio ansawdd i helpu gwasanaethau i gynllunio, trosglwyddo, asesu a gwella darpariaeth chwarae iechyd o safon uchel ar gyfer plant.
Mae gwaith cychwynnol y prosiect newydd hwn yn cynnwys dod a rheolwyr chwarae iechyd ynghyd a sefydlu Tasglu Chwarae’n dda yng Nghymru gyda rhanddeiliaid allweddol yn gweithio yn y system chwarae iechyd plant yng Nghymru.