Archwiliwch
Mae Llwydraeth Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae terfynol. Mae’r adroddiad terfynol, O Uchelgais i Weithredu, yn dangos y cynnydd a’r camau a gymerwyd mewn ymateb i argymhellion Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r camau gweithredu rhwng mis Chwefror 2025 a mis Mai 2026 a chamau gweithredu i’w rhoi ar waith ar ôl mis Mai 2026. Mae hefyd yn cynnwys diweddariad ar waith strategol sydd ar waith o hyd ar draws meysydd polisi.
Cynhaliwyd yr adolygiad manwl a chydweithredol rhwng 2019 a 2022 gyda’r grŵp llywio yn gwneud argymhellion allweddol ac awgrymu cerrig milltir i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth adeiladu ar y cynnydd a wnaed i fod yn wlad lle mae cyfle i chwarae. Ymatebodd y llywodraeth i’r adroddiad ac amlinellodd y camau gweithredu i’w cymryd er mwyn cyflawni canlyniadau disgwyliedig y grŵp llywio, a chyhoeddwyd adroddiad cynnydd ym mis Chwefror 2025.
Mae Llywdoraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi fersiynau ar gyfer plant a phobl ifanc o’r adroddiad terfynol.
Gan bwysleisio ei ymroddiad i chwarae plant yn yr adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru:
‘Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ac enghreifftiau o’r gweithgarwch parhaus sy’n gysylltiedig â’r camau gweithredu hyn, gan gydnabod bod ymwreiddio chwarae ar draws y llywodraeth ac ystod eang o feysydd polisi yn gofyn am ymrwymiad a chydweithio di-dor. Mae creu a chynnal cyfleoedd i chwarae yn broses barhaus yn hytrach na set ar wahân o gamau gweithredu…
Rydym am adeiladu ar y cynnydd hwn a chynnal statws Cymru fel gwlad flaenllaw wrth hyrwyddo hawl plant i chwarae. Byddwn yn ystyried gwersi i’w dysgu o’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae a’r broses o roi’r camau gweithredu ar waith.’
Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Chwara Cymru:
‘Llongyfarchiadau i Lywodraeth Cymru ar y cynnydd a wnaed wrth weithredu’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoddd Chwarae, yn enwedig drwy sefydlu Rhwydwaith yr Hyrwyddwyr Chwarae a’r Bwrdd Gweithredu Adolygiad Chwarae, sy’n darparu arweinyddiaeth a momentwm pwysig ar gyfer sicrhau cyfleoedd i blant chwarae ledled Cymru.
Roeddem yn falch o fod yn awduron adroddiadau ar gyfer Adroddiad Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae a’r Papur Cefndir cysylltiedig. Cawsom y fraint o gasglu tystiolaeth a phrofiad cyfoethog gan grŵp llywio trawsbroffesiynol o arbenigwyr chwarae a gwaith chwarae a swyddogion polisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru.’