Cym | Eng

News

Bydd Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) 2025 yn fyw ar 31 Ionawr

Date

09.01.2025

Category

News

Archwiliwch

Bydd Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar gael i’w gwblhau ar-lein o 31 Ionawr 2025.

Mae’r SASS yn ffurflen ar-lein y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob darparwr gwasanaethau chwarae, gofal plant, a gwarchodwr plant yng Nghymru ei chwblhau.

Bydd y wybodaeth a ddarperir drwy’r cyflwyniad SASS yn helpu AGC i gynllunio arolygiadau a darparu’r cymorth a’r gefnogaeth gywir i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Bydd y data o bob rhan o Gymru yn cael eu coladu, eu gwneud yn ddienw a’u cyhoeddi yn ddiweddarach yn 2025.

Bydd angen cyfrif AGC Ar-lein ar ddarparwyr i gwblhau’r SASS. Dylai’r rhai nad oes ganddynt gyfrif gymryd camau brys i greu un.

Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r SASS yw 14 Mawrth 2025. Os na fyddwch yn cwblhau eich SASS erbyn y dyddiad hwn, bydd yn effeithio ar eich graddau yn y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors