Cym | Eng

Newyddion

Dirprwy Brif Weinidog yn ymrwymo i gyflawni hawliau plant yn ymarferol

Date

25.09.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams AS, wedi ymrwymo i gyflawni hawliau plant yn ymarferol. Mae ‘ymrwymo i wireddu hawliau plant mewn bywyd bob dydd ledled Cymru’ yn ran ganolog o flaenoriaethau cenedlaethol y llywodraeth newydd.

Daeth y diweddariad gan y llywodraeth newydd dair blynedd ar ôl i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn gyhoeddi ei Adroddiad Sylwadau Terfynol ar y DU yn 2023. Wrth ymateb i’r sylwadau, mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau amddiffyn hawliau plant yn cynnwys:

  • darparu cynnig gofal plant cyffredinol ar gyfer pob plentyn rhwng naw mis a phedair oed
  • cyflwyno strategaeth tlodi plant newydd fel bod gan blant safon byw sy’n diwallu eu hanghenion corfforol, meddyliol a chymdeithasol
  • canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar a lleihau anghydraddoldebau yn y system iechyd
  • datblygu system fwy integredig i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar iechyd meddwl a lles
  • codi safonau mewn addysg i sicrhau’r amodau gorau ar gyfer addysgu a dysgu.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:

‘Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi rhoi babanod, plant a phobl ifanc yng nghanol ein blaenoriaethau cenedlaethol, gan ymrwymo i wireddu hawliau plant mewn bywyd bob dydd ledled Cymru … Rydym yn adeiladu Cymru decach lle mae hawliau plant yn cael eu deall, eu parchu a’u gwireddu mewn bywyd bob dydd.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors