Archwiliwch
Ar 1 Medi 2026, fe newidiodd y gyfraith ynghylch gweithgareddau a reoleiddir gyda phlant. Cafodd yr eithriad goruchwylio ar gyfer gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant ei ddileu.
Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl mewn gweithgareddau a reoleiddir gyda phlant ar ôl 1 Medi 2026 pan nad oeddent o’r blaen, am eu bod yn cael eu goruchwylio’n ddigonol gan rywun arall.
Gallai hyn fod yn berthnasol ar gyfer staff neu wirfoddolwyr sy’n gwneud y gwaith canlynol yn ddigon aml (tair gwaith neu fwy mewn 30 munud) gyda phlant: addysgu, hyfforddi, gofalu am neu oruchwylio’r plant, gallai hyn fod yn berthnasol iddyn nhw. Mae enghreifftiau’n cynnwys gwaith ieuenctid, hyfforddiant chwaraeon a gweithgareddau awyr agored.
Mae’r newid hwn yn effeithio ar unrhyw sefydliad yng Nghymru a Lloegr sydd â staff cyflogedig neu wirfoddolwyr sy’n addysgu, hyfforddi, cyfarwyddo, gofalu am, neu oruchwylio plant. Mae’n effeithio ar bobl nad oeddent mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant yn benodol oherwydd bod rhywun arall a oedd yn cynnal gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant wedi’u goruchwylio i lefel ddigonol. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i amgylchiadau sy’n cynnwys:
- pobl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda phlant mewn canolfannau gweithgareddau awyr agored, grwpiau ieuenctid, elusennau neu grwpiau cymunedol, ac sy’n cael eu goruchwylio gan rywun arall sydd mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant
- pobl sy’n gwirfoddoli mewn ysgolion, fel cynorthwywyr darllen sy’n cael eu goruchwylio gan athro.