Cym | Eng

Newyddion

Canllawiau newydd i gefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Date

23.09.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau wedi eu diwygio i gefnogi awdurdodau lleol yn eu dyletswyddau i ddarparu, dylunio a rheoli llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardaloedd. Mae hwn yn rhan bwysig o’r broses barhaus o weithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau ehangach i gydraddoldeb, cynhwysiant a chydlyniant cymunedol.

Mae’r canllawiau newydd a ddiwygiwyd wedi’u llunio ar sail ymgynghori â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau’r trydydd sector, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a swyddogion polisi, gan sicrhau bod profiad bywyd ac ystyriaethau ymarferol ynghylch cyflawni yn cael eu hadlewyrchu drwy gydol y canllawiau.

Mae’r canllawiau newydd yn cyfeirio at becyn cymorth Chwarae Cymru, Datblygu darpariaeth chwarae a blynyddoedd cynnar mewn safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae’r pecyn cymorth wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth glir a chryno sy’n helpu i greu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae’n cynnwys templedi ac adnoddau cam wrth gam, ymarferol ar gyfer cyflawni gwaith sy’n gysylltiedig â dileu’r rhwystrau i gael mynediad i gyfleoedd i chwarae a wynebir gan blant Sipsiwn a Theithwyr.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors