Gwaith chwarae
Iechyd meddwl a lles mewn chwarae a gwaith chwarae – fframwaith NYTH
Pwnc
Gwaith chwarae
Dyddiad cyhoeddi
22.09.2026
Darllen yr adnodd
Awdur: Millie Boswell
Dyddiad: Medi 2026
Mae ein hadnodd hyfforddi newydd, Iechyd meddwl a lles mewn chwarae a gwaith chwarae – fframwaith NYTH, yn ystyried rôl hanfodol chwarae plant wrth hyrwyddo iechyd meddwl a lles cadarnhaol. Mae’n cynnig cyflwyniad i fframwaith NYTH Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl a lles ac yn cysylltu defnydd y fframwaith ag ymarfer gwaith chwarae.
Wedi ei ysgrifennu gan Millie Boswell, mae’r adnodd hwn wedi’i greu ar gyfer hyfforddwyr chwarae a gwaith chwarae i’w ddefnyddio wrth ddarparu hyfforddiant, cymwysterau a chyfleoedd datblygu proffesiynol eraill ynghylch iechyd meddwl a lles, wedi’u hanelu at ymarferwyr gwaith chwarae. Bwriad yr adnodd yw cefnogi hyfforddwyr gwaith chwarae i wneud y cysylltiadau rhwng gwaith chwarae a fframwaith NYTH a chefnogi gweithwyr chwarae i fyfyrio ar sut mae eu hymarfer yn cyfrannu at les.
Mae’r adnodd yn cynnwys cynlluniau sesiwn, taflenni gwaith ar gyfer dysgwyr a dolenni at ddeunyddiau ategol.
Deunyddiau ategol