Archwiliwch
Mae Prif Grant Gwirfoddoli Cymru CGGC (WCVA) nawr ar agor ar gyfer ceisiadau. Mae cyllid ar gael i fudiadau nid-er-elw sy’n cynnig prosiectau hyd at flwyddyn o hyd gan ofyn am uchafswm o £30,000
Nodau’r cynllun yw :
- Cynyddu ymgysylltiad a boddhad gwirfoddolwyr drwy gael gwared â’r rhwystrau i wirfoddoli i bobl o bob oed ac o bob rhan o’r gymdeithas.
- Cefnogi’r gwaith o greu a datblygu cyfleoedd gwirfoddoli positif o ansawdd uchel yng Nghymru yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Cynnwys Gwirfoddolwyr.
- Hybu newidiadau mewn mudiadau buddiolwyr er mwyn ymwreiddio gwirfoddoli yn eu diwylliant, er enghraifft ennill dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Y cynharaf y gall gweithgareddau ddechrau yw 1 Ebrill 2027 a rhaid i’r prosiectau ddod i ben erbyn 1 Ebrill 2028 fan bellaf.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Tachwedd 2026