Cym | Eng

Newyddion

Adroddiad y Town and Country Planning Association yn galw ar Lywodraeth y DU i flaenoriaethu chwarae

Date

10.12.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Town and Country Planning Association (TCPA) wedi cyhoeddi adroddiad sy’n galw ar lunwyr polisi Llywodraeth y DU yn San Steffan i wella lleoedd a mannau i blant ddatblygu.

Mae Raising the healthiest generation in history: why it matters where children and young people live yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan ymchwiliad y Pwyllgor Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau i blant, pobl ifanc a’r amgylchedd adeiledig. Mae’n cyflwyno chwe argymhelliad i weinidogion ac adrannau llywodraeth San Steffan, gan gynnwys blaenoriaethu cyfleoedd ar gyfer chwarae plant.

Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu gan y TCPA mewn cydweithrediad â’r grŵp a alwodd yn wreiddiol am yr ymchwiliad: Playing Out, Fields in Trust, yr arbenigwr plentyndod Tim Gill a’r pensaer Dinah Bornat.

Mwy o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors