Cym | Eng

Newyddion

Rydym yn recriwtio…

Date

04.09.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Rydym yn recriwtio Swyddog Polisi a Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog i ymuno â’n tîm bychan.

O gartref yn bennaf fydd lleoliad gwaith y ddwy rôl, gyda’r angen am rywfaint o weithio yn y swyddfa a theithio trwy Gymru. Hefyd, maent yn cael eu cynnig ar sail rhan amser neu llawn amser, gyda’r oriau i’w cytuno gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus.

Y dyddiad cau ar gyfer y ddwy rôl yw 9:00am ar 14 Medi 2026, gyda chyfweliadau yn digwydd wyneb-yn-wyneb yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.

Swyddog Polisi

Bydd y Swyddog Polisi’n cefnogi datblygiad a throsglwyddiad gwaith polisi a strategol Chwarae Cymru ar draws cylch gorchwyl cyflawn y mudiad. Gan weithio fel rhan o dîm cenedlaethol bychan, bydd y rôl yn cynnwys ymgysylltu gyda phartneriaid, cyfrannu at brosiectau a rhaglenni, a chefnogi’r sefydliad i ymateb yn effeithlon i ddatblygiadau mewn polisi ac ymarfer ar draws Cymru.

Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog

Bydd y Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog yn gwneud cyfraniad allweddol i gynllunio, trosglwyddo a gwerthuso gweithgarwch cyfathrebu o safon uchel, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y mudiad. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys creu cynnwys dwyieithog ar gyfer gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol, cydlynu gweithgareddau marchnata, a chefnogi cynllunio a throsglwyddo digwyddiadau.

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors