Archwiliwch
Mae Comisynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, wedi lansio canllaw ymarferol i gefnogi cyrff cyhoeddus ledled Cymru i gael gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng penderfyniadau cyllideb, hawliau plant a chanlyniadau i blant a phobl ifanc.
Datblygwyd Canllaw Cyllidebu Hawliau Plant newydd: Canllaw ar gyfer Cyrff Cyhoeddus (ac Eraill) yng Nghymru gyda Dr Rhian Croke a’r Athro Simon Hoffman o’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Mae’r canllaw yn cynnig cymorth ymarferol i sefydliadau sy’n dymuno ymgorffori dull sy’n seiliedig ar hawliau plant yn eu prosesau cyllidebu. Mae’n:
- darparu fframwaith cam wrth gam ar gyfer cynnal Dadansoddiad Cyllideb Hawliau Plant, gan helpu sefydliadau i asesu pa mor effeithiol y mae adnoddau’n cael eu defnyddio i wireddu hawliau plant.
- tynnu sylw at rôl Asesiadau Effaith ar Hawliau Plant (CRIAs) wrth ddeall, asesu a lliniaru effeithiau penderfyniadau polisi a chyllidebol ar blant a phobl ifanc
- cynnig arweiniad ymarferol ar gyllidebu cyfranogol a chynnwys plant mewn penderfyniadau ariannol, gan sicrhau bod barn plant yn helpu i lywio blaenoriaethau gwario a dyrannu adnoddau.
Mae’r canllaw wedi’i lunio ar gyfer cyrff cyhoeddus sy’n ceisio cryfhau eu prosesau cyllidebu eu hunain, ac ar gyfer ymarferwyr, aelodau etholedig, cyrff craffu a sefydliadau cymdeithas sifil sy’n ceisio deall sut mae adnoddau’n cael eu dyrannu i gefnogi hawliau a lles plant.
Wrth lansio’r canllaw newydd, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru:
‘Mewn cyfnod lle mae pwysau cynyddol ar gyllid cyhoeddus, mae’n bwysicach nag erioed bod penderfyniadau ynghylch adnoddau yn cael eu llywio gan dystiolaeth, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn seiliedig ar hawliau plant. Gobeithiwn y bydd y canllaw hwn yn cefnogi sefydliadau ledled Cymru i ymgorffori dull sy’n seiliedig ar hawliau plant mewn penderfyniadau ariannol ac i gryfhau eu cyfraniad at wella bywydau plant a phobl ifanc.’