Archwiliwch
Mae’r International Play Association (IPA) yn gwahodd ceisiadau ar gyfer ei Right to Play Award Programme. Gwahoddir enwebiadau gan sefydliadau ac unigolion sy’n cynrychioli sefydliadau er-elw neu nid-er-elw.
Rhaid i brosiectau ddangos sut maent yn diogelu, hyrwyddo neu wella hawl y plentyn i chwarae. Mae prosiectau sy’n addas i’w henwebu yn cynnwys rhaglenni gweithgareddau, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus, cynhyrchion cyfryngau, deddfwriaeth genedlaethol neu leol sydd wedi’i gweithredu, dylunio mannau a dylunio eitemau chwarae.
Crëwyd yr IPA Right to Play Award Programme i gydnabod a dathlu prosiectau sy’n defnyddio dulliau arloesol ac ymarferol i weithredu Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r gwobrau’n rhoi cyfle i’r enillwyr a’r rhai a enwebwyd arddangos eu gwaith i’w cymuned ac i’r byd.
Cyhoeddir enillwyr y gwobrau yng Nghynhadledd Fyd-eang yr IPA (a gynhelir bob tair blynedd) yn Christchurch, Seland Newydd, ym mis Tachwedd 2026, a byddant yn cael eu cynnwys ar wefan IPA World.
Dyddiad cau ar gyfer anfon enwebiad: 25 Medi 2026
Sylwch fod y rhaglen ar agor i aelodau cyfredol yr International Play Association yn unig.