Cym | Eng

Digwyddiad arall

Dwyieithrwydd ar waith

Dyddiad

22 Medi 2026

Amser

10:00am – 12:00pm

Pris (aelod)

Am ddim

Pris (ddim yn aelod)

Am ddim

Trefnydd

CGGC (WCVA)

Lleoliad

Ar-lein

Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg

Bydd y sesiwn am ddim hon, gan Dîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg, yn caniatáu i gyfranogwyr ddatblygu defnydd eu sefydliad o’r iaith Gymraeg. Bydd yn rhannu gwybodaeth, ymchwil a chymorth ymarferol ar sut i gynllunio i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn eu sefydliad.

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Deall cyd-destun hanesyddol a chyfredol y Gymraeg yn well
  • Deall y sefyllfa ynglŷn â deddfwriaeth a pholisi cyhoeddus y Gymraeg yn well
  • Deall perthnasedd y Gymraeg i’w cwsmeriaid a’u defnyddwyr gwasanaeth
  • Disgrifio manteision y Gymraeg o fewn cyd-destun y trydydd sector
  • Adnabod a defnyddio’r cymorth a’r cyngor sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan Gomisiynydd y Gymraeg ac eraill.

Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer:

  • Gweithwyr, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr sydd eisiau dysgu mwy am rôl y Gymraeg o fewn eu sefydliad
  • Swyddogion â chyfrifoldeb dros ddarpariaeth Gymraeg eu sefydliad
  • Unigolion sydd eisiau deall mwy am berthnasedd y Gymraeg i’w rôl.

Uchafswm o ddau le i bob mudiad.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors