Cym | Eng

Newyddion

Diwrnod Chwarae 2026 yn galw am gefnogaeth i alluogi plant i chwarae yma, acw a phobman

Date

05.08.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Heddiw, wrth i filoedd o blant, pobl ifanc, a theuluoedd ar draws y DU ddathlu Diwrnod Chwarae drwy fynychu digwyddiadau lleol neu chwarae gartref, mae’r sefydliadau chwarae cenedlaethol yn galw ar i bawb eiriol dros hawl plant i chwarae a helpu i wneud y DU yn fwy chwareus ac yn le ble gall pob plentyn dyfu a ffynnu.

Mae thema Diwrnod Chwarae eleni’n pwysleisio pwysigrwydd creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae ble bynnag y maen nhw. Bydd plant yn chwarae ym mhobman – mewn ystafelloedd byw a gerddi, meysydd chwarae ysgolion a pharciau, mewn cymdogaethau ac ar strydoedd lleol.

Mae chwarae’n cael ei ddewis o wirfodd ac yn cael ei arwain gan y plant eu hunain. Mae’n digwydd pan fydd plant yn dilyn eu syniadau a’u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

Mae chwarae’n rhan naturiol o fywydau bob dydd plant ac mae’n hanfodol ar gyfer eu hiechyd, eu datblygiad, a’u lles emosiynol. Trwy greu cymunedau sy’n fwy chwareus, gall plant gael hwyl, gwneud ffrindiau, datblygu gwytnwch a hyder, a theimlo fel eu bod yn perthyn.

Ar Ddiwrnod Chwarae eleni, mae’r sefydliadau chwarae cenedlaethol yn gofyn i bob plentyn gael mynediad i:

  • Enydau chwareus – gall cyfleoedd bychain i chwarae, boed gartref neu allan yn y byd mawr, wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau bob dydd plant.
  • Anturiau bob dydd – ’does dim rhaid i chwarae alw am deganau a gweithgareddau drud, yn aml iawn syniadau syml, rhad fydd yn fwyaf o hwyl.
  • Cymdogaethau chwareus – gall gwneud siwrneiau bob dydd yn fwy chwareus a chyfeillgar at blant fod yn bleserus i bawb.
  • Amgylcheddau cynhwysol a chroesawus – gofodau a mannau ble mae plant o bob gallu ac oed yn teimlo eu bod yn perthyn.

Dywedodd Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru:

‘O gael amser, lle a rhyddid, bydd plant yn chwarae yma, acw a phobman. Mae enydau chwareus ac anturiau bob dydd mewn amgylcheddau cynhwysol a chroesawus yn eu cymdogaethau’n hanfodol bwysig i bob plentyn. Gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiadau chwarae plant, sy’n anhepgor ar gyfer plentyndod iach a hapus.

Mae plant sy’n byw a chwarae yng Nghymru’n dweud wrthym bod cael mannau da i chwarae gyda ffrindiau ger ble maen nhw’n byw yn bwysig iawn iddyn nhw. Maen nhw’n gofyn am fwy o fannau a gofodau i chwarae, a rheini’n rhai gwell. Allwn ni ddim gwadu bod y rhain yn ddisgwyliadau rhesymol a dylai pob oedolyn fod yn edrych ar ffyrdd i’w gwneud hi’n haws i blant chwarae – ar Ddiwrnod Chwarae a bob dydd.’

Meddai Alan Herron, Prif Weithredwr PlayBoard NI:

‘Mae plant yn chwarae yma, acw a phobman – gartref, yn eu cymunedau, mewn parciau, ysgolion ac yn y gofodau bob dydd sy’n siapio’u bywydau. Mae pob plentyn yng Ngogledd Iwerddon yn haeddu cael yr amser, lle a rhyddid i chwarae oherwydd bod chwarae’n sylfaenol i ddatblygiad iach, lles ac ymdeimlad o berthyn pob plentyn.

Yr her i ni yw nid i ddweud wrth blant ble y gallan nhw chwarae, ond i sicrhau bod y mannau ble maen nhw’n byw yn cefnogi hynny eisoes. Mae Diwrnod Chwarae’n ein hatgoffa bod creu Gogledd Iwerddon sy’n fwy chwareus yn gofyn am ymrwymiad cytûn i wreiddio hawl plant a phobl ifanc i chwarae ar draws llywodraeth. Wrth i ardaloedd eraill o’r DU atgyfnerthu eu hymrwymiad i chwarae drwy strategaethau cenedlaethol a diwygiadau cynllunio, rhaid i Ogledd Iwerddon beidio cael ei gadael ar ôl. Nawr yw’r adeg i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon drosglwyddo Strategaeth Chwarae benodedig a diwygiadau cynllunio sy’n gosod chwarae wrth galon pob cymuned.’

Dywedodd Mary Ramsay, Prif Weithredwr Play Scotland:

‘Yn Yr Alban, rydym wedi gweld â’n llygaid ein hunain y grym sydd gan chwarae a gyfarwyddir yn bersonol, a ddewisir o wirfodd, ac a gymhellir yn gynhenid wrth greu plant cydnerth, chwilfrydig a hyderus a sut y mae hynny’n ffurfio ymdeimlad cryf o’r hunan ac o berthyn yn eu cymuned.

Mae Diwrnod Chwarae’n gyfle pwysig i ni eiriol dros a dathlu chwarae am ei bŵer wrth gefnogi lles plant mewn lleoliadau cyffredin, bob dydd. Ble bynnag yr ydych chi, achubwch ar y cyfle i ddarganfod a gwneud lle ar gyfer ennyd chwareus!’

Meddai Eugene Minogue, Cyfarwyddwr Gweithredol Play England:

‘’Dyw chwarae ddim yn perthyn i un llecyn, un lleoliad neu un cyfnod o blentyndod. Mae’n digwydd yma, acw a phobman pan gaiff plant y lle a’r amser i chwarae, pan gaiff eu chwarae ei groesawu a’i dderbyn, a phan gaiff eu hawl i chwarae ei pharchu.

Dyma bwrpas strategaeth deng mlynedd Play England – It All Starts With Play! i adfer plentyndod seiliedig ar chwarae ar gyfer pob plentyn yn Lloegr erbyn 2035. Ar Ddiwrnod Chwarae eleni, mae ein neges yn glir: dylai plant allu, a dylai bod croeso iddyn nhw, chwarae gartref, yn yr ysgol, mewn parciau, strydoedd a thrwy eu cymunedau, ar Ddiwrnod Chwarae a bob dydd.’

Cymryd rhan

Ar Ddiwrnod Chwarae eleni, anogir teuluoedd, arweinyddion cymunedol, darparwyr chwarae, a lleoliadau gofal plant i eiriol dros fannau a chyfleoedd i chwarae, gan helpu i greu byd mwy chwareus ble gall plant a phobl ifanc fwynhau’r rhyddid i chwarae.

Am y wybodaeth ddiweddaraf – ac i rannu’ch profiadau Diwrnod Chwarae – defnyddiwch yr hashnod  #DiwrnodChwarae2026 neu #ChwaraeBobman ar y cyfryngau cymdeithasol.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors