Cym | Eng

Gweithio Gyda Ni

Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog

Date posted

30.07.2026

Mudiad: Chwarae Cymru

Lleoliad: gweithio o gartref yn bennaf, gyda’r angen am rywfaint o weithio yn y swyddfa a theithio trwy Gymru

Oriau: 22.5 i 37 awr yr wythnos – i’w gytuno gyda’r ymgeisydd llwyddiannus

Cyflog: £21,473 – £35,312 (yn ddibynnol ar yr oriau a gytunwyd) NJC 24-27

Dyddiad cau: 14 Medi 2026 (9:00am)

Dyddiad cyfweliad: 21 Medi 2026 (bydd y cyfweliad yn cynnwys prawf o 1 awr a 15 munud i asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer y rôl)

Mae Chwarae Cymru yn recriwtio Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog rhan-amser i ymuno â’i tîm bychan.

Bydd y Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog yn gwneud cyfraniad allweddol i gynllunio, trosglwyddo a gwerthuso gweithgarwch cyfathrebu o safon uchel, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y mudiad. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys creu cynnwys dwyieithog ar gyfer gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol, cydlynu gweithgareddau marchnata, a chefnogi cynllunio a throsglwyddo digwyddiadau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg gyda phrofiad o waith cyfathrebu a chydlynu digwyddiadau, a gydag ymrwymiad cryf i ymarfer cynhwysol, hygyrch a dwyieithog. Mae’r criteria hanfodol ar gyfer y swydd hon yn cynnwys o leiaf ddwy flynedd o brofiad mewn rôl â ffocws ar gyfathrebu, a sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae Chwarae Cymru’n croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hil, oedran, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol, statws priodasol, rhyw, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd neu gredoau.

 

 

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors