Cym | Eng

Gweithio Gyda Ni

Swyddog Polisi

Date posted

30.07.2026

Mudiad: Chwarae Cymru

Lleoliad: gweithio o gartref yn bennaf, gyda’r angen am rywfaint o weithio yn y swyddfa a theithio trwy Gymru

Oriau: 30 awr yr wythnos

Cyflog amser llawn: £38,220 (pro rata £30,989) NJC 27 – 30

Dyddiad cau: 9:00am 14 Medi 2026

Dyddiad cyfweliad: 22 Medi 2026 (bydd y cyfweliad yn cynnwys tasg i asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer y rôl)

Dyddiad cychwyn: 30 Tachwedd 2026

Mae Chwarae Cymru yn recriwtio Swyddog Polisi rhan-amser parhaol i ymuno â’i tîm bychan.

Bydd y Swyddog Polisi’n cefnogi datblygiad a throsglwyddiad gwaith polisi a strategol Chwarae Cymru ar draws cylch gorchwyl cyflawn y mudiad. Gan weithio fel rhan o dîm cenedlaethol bychan, bydd y rôl yn cynnwys ymgysylltu gyda phartneriaid, cyfrannu at brosiectau a rhaglenni, a chefnogi’r sefydliad i ymateb yn effeithlon i ddatblygiadau mewn polisi ac ymarfer ar draws Cymru.

Mae gwybodaeth am a dealltwriaeth o bolisi ac ymarfer sy’n berthnasol i blant, chwarae, gwaith chwarae neu sectorau perthynol yng Nghymru, ynghyd â phrofiad o weithio mewn rôl polisi, datblygu, ymchwil neu rôl debyg yn y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus neu sector perthynol arall yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Mae Chwarae Cymru’n croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hil, oedran, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol, statws priodasol, rhyw, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd neu gredoau.

 

 

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors