Archwiliwch
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams AS, wedi rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Llywodraeth Cymru i ehangu gofal plant yn raddol, gan nodi’r camau ar gyfer cyflwyno cynnig gofal plant cyffredinol i blant rhwng naw mis a phedair oed.
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw y bydd teuluoedd ledled Cymru yn gallu cael mynediad at gynnig gofal plant a ariennir symlach a mwy cyson i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed erbyn diwedd tymor y Senedd hon.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i fireinio costau a chynlluniau cyflawni, gan gynnwys capasiti’r gweithlu, anghenion hyfforddi a chymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau bod gan ddarparwyr gofal plant y cyfleusterau a’r adnoddau i gynnig mwy o leoedd.
Bydd camau’r rhaglen yn canolbwyntio ar:
- gwblhau’r gwaith o gyflwyno 12.5 awr o ofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed ledled Cymru
- cynyddu lefel y cymorth i blant dwy oed i 20 awr a ariennir yr wythnos am 48 wythnos, gan symud yn gyflymach lle mae amgylchiadau lleol yn caniatáu hynny – gweithio gyda darparwyr gofal plant i ymestyn y cynnig estynedig i bob plentyn tair a phedair oed
- adeiladu ar y cynigion hyn cyn ymestyn cymorth i blant rhwng naw mis a dwy oed.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol, darparwyr a chynrychiolwyr sector drwy’r Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu Gofal Plant sydd newydd ei sefydlu i gefnogi’r gwaith cyflawni. Bydd cynllun gweithlu yn cael ei ddatblygu i gefnogi recriwtio, cadw a thyfu’r gweithlu gofal plant sydd ei angen i ddarparu’r cynnig estynedig.