Cym | Eng

Newyddion

Ymchwil: gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant

Date

13.07.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae canfyddiadau arolwg cyntaf Gofal Cymdeithasol Cymru o’r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant yn rhoi darlun cliriach o’r bobl sy’n gweithio yn y sewctor, beth sy’n eu cymell ar heriau maen nhw’n eu hwynebu.

Mae’r canfyddiadau, sy’n cadarnhau llawer o’r materion mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ymwybodol ohonynt, yn cynnwys:

  • 31% yn dweud eu bod wedi dechrau gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth, tra bod 30% eisiau swydd a fyddai’n addas i’w sgiliau neu y bydden nhw’n dda ynddi
  • 93% yn dweud bod ganddyn nhw’r hyfforddiant cywir i wneud eu swydd, ond mae pryderon am lwybrau dilyniant gyrfa aneglur neu gyfyngedig
  • 31% dweud eu bod yn ystyried gadael y sector oherwydd ffactorau fel cyflog isel, llwyth gwaith uchel, diffyg cydnabyddiaeth, cyfleoedd cyfyngedig i ddatblygu a phrinder staff.
  • 35% yn dweud yr hoffen nhw symud i rôl arweiniol yn y dyfodol, ond roedd mwy na thraean yn wynebu rhwystrau i hyfforddiant, fel diffyg amser, prinder staff a chost
  • 54% yn dweud eu bod nhw’n fodlon ar eu telerau ac amodau, fel cyflog, oriau gwaith a pholisïau, ond mae pwysau parhaus o amgylch recriwtio a thwf y gweithlu.

Mewn ymateb i’r canfyddiadau, dywed Gofal Cymdeithasol Cymru:

‘Mae’r canfyddiadau hyn yn fan cychwyn defnyddiol i ddeall y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru yn well. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid cenedlaethol a rhanbarthol i ddylanwadu, cefnogi a llunio atebion i’r heriau hyn, lle bynnag y bo modd.

Mae rhai o’r camau rydyn ni’n eu cymryd yn cynnwys:

  • dechrau ein gweithgaredd allgymorth cydgysylltiedig i hyrwyddo gyrfaoedd gofal plant i ddynion
  • sefydlu fforymau arweinyddiaeth a rheoli ar gyfer dysgu a chymorth a rennir
  • diweddaru’r llwybr gyrfa blynyddoedd cynnar
  • ehangu treialon gwaith drwy ein rhaglen Llwybrau at Ofal Plant.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors