Cym | Eng

Newyddion

Ffocws ar chwarae – NMS ar gyfer gwaith chwarae mynediad agored

Date

06.07.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Rydym wedi cyhoeddi rhifyn newydd o Ffocws ar chwarae, sy’n cynnig gwybodaeth am y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) sydd wedi eu diweddaru, ar gyfer gwaith chwarae mynediad agored. Mae wedi’i anelu at y rheini sy’n gyfrifol am, neu’n gweithio mewn, gwaith chwarae mynediad agored, yn ogystal â rhai sydd a diddorddeb mewn lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored.

Ym mis Mehefin 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru NMS diwygiedig ar gyfer gofal plant a reoleiddir i blant hyd at ddeuddeg oed. Mae hyn yn cynnwys set newydd o NMS ar gyfer gwaith chwarae mynediad agored.

Bwriedir i gyfarwyddyd statudol yr NMS ar gyfer gwaith chwarae mynediad agored a reoleiddir ganiatáu agwedd hyblyg, fydd yn caniatáu i ddarparwyr ddatblygu darpariaeth o safon sydd wedi ei deilwra i fodloni anghenion plant, rhieni a chymunedau lleol. Bwriedir i’r NMS annibynnol adlewyrchu anghenion plant pump i ddeuddeg oed ac i gael eu rhoi ar waith mewn modd cymesur.

Yn y rhifyn hwn, rydym yn archwilio’r hyn sydd wedi newid yn yr NMS ar gyfer gwaith chwarae mynediad agored ac yn ateb cwestiynau cyffredin, megis:

  • Beth am gofrestriadau ar gyfer darparwyr mynediad agored sy’n gweithio mewn mwy nag un lleoliad?
  • Ydi hyn yn golygu nad yw gwaith chwarae mynediad agored yn cael ei reoleiddio mor llym â darpariaeth gofal dydd a gwarchod plant arall?
  • Oes rhaid i bob lleoliad gwaith chwarae mynediad agored gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru?

Lawrlwytho’r Ffocws ar chwarae

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors