Archwiliwch
Mae Cronfa Arloesedd y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cynnig grantiau hyd at £750 i ddarparwyr addysg oedolion yng Nghymru sy’n dymuno cyflwyno gweithgareddau yn y gymuned, digwyddiadau hyrwyddo neu sesiynau blasu ar-lein ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion a thrwy gydol mis Medi 2026.
Nod y gronfa grantiau yw cefnogi creu sesiynau blasu byr, digwyddiadau dysgu, gweithgaredd yn y gymuned, dosbarthiadau meistr, llais dysgwyr neu ddysgu fel teulu, am ddim, ac i ddatblygu cynnwys y gellir ei addasu i amgylchedd ar-lein.
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n dathlu a hyrwyddo cyfleoedd dysgu i bawb. Bydd yr wythnos rhwng 21 i 27 Medi 2026 gyda gweithgaredd hyrwyddo drwy gydol y mis.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 3 Gorffennaf 2026