Cym | Eng

Newyddion

Cyhoeddi SGC newydd ar wahan ar gyfer chwarae mynediad agored

Date

18.06.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) newydd ar wahan ar gyfer chwarae mynediad agored a reoleiddir. Mae SGC ar gyfer gofal plant a reoleiddir i blant hyd at 12 oed hefyd wedi eu cyhoeddi.

Bwriad y canllawiau statudol ar gyfer safonau chwarae mynediad agored a reoleiddir yw caniatáu dull hyblyg er mwyn i ddarparwyr allu datblygu darpariaeth o ansawdd, a honno wedi’i theilwra i anghenion plant, rhieni a chymunedau lleol. Maent wedi’u bwriadu i adlewyrchu anghenion plant pump i ddeuddeg oed, ac i fod yn gymesur o ran y ffordd y cânt eu cymhwyso.

Ar gyfer lleoliadau chwarae mynediad agored, mae’r SGC hyn yn SGC ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023.

Yn y cyflwyniad i’r AGC newydd ar gyfer chwarae mynediad agored, dywed Llywodraeth Cymru:

‘Mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn eich cefnogi chi a’ch staff i ddylanwadu’n gadarnhaol ar blant a’u teuluoedd mewn llawer o ffyrdd … Drwy gydberthynas â’r plant sy’n meithrin eu lles, a gofal sy’n ymateb iddynt yn emosiynol, a rhoi cyfleoedd iddynt chwarae, gall eich rôl gyfrannu at ysgogi eu gwydnwch a darparu sefydlogrwydd sy’n hyrwyddo eu lles heddiw a’u datblygiad hirdymor.’

Dywed Chwarae Cymru:

‘Mae Chwarae Cymru yn croesawu datblygiad SGC pwrpasol ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored. Rydym wedi galw am hyn dros nifer o flynyddoedd ac mae’n ymateb yn uniongyrchol i argymhellion yn yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Rydym yn obeithiol y bydd y newidiadau hyn yn galluogi dull mwy cymesur o gofrestru ac arolygu ac yn cefnogi mwy o leoliadau gwaith chwarae mynediad agored i gofrestru.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors