Swyddi Sector
Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant Peripatetig Gogledd Cymru
Mudiad: Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Lleoliad: i weithio o’r swyddfa ym Mae Colwyn, gyda chytundeb gweithio ystwyth yn ei le, gan gynnwys teithio a gweithio ar draws siroedd yng ngogledd Cymru a Phowys.
Oriau: 25.9 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
Cyflog: £33,366 (£34,433.71 ar lwyddo i dderbyn cadarnhad mewn swydd, fel arfer wedi 6 mis)
Dyddiad cau: 28 Mehefin 2026
Ffocws y rôl yw helpu cymunedau drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi Clybiau Gofal Plant All-Ysgol sydd o ansawdd, ac wedi eu llywodraethu’n gadarn, ac ateb y galw am fwy o ofal plant wedi ei gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar hyd a lled Cymru.
Mae’r prif dasgau ar gyfer y rôl hon yn cynnwys:
- datblygu a sefydlu Clybiau Gofal Plant All-Ysgol newydd a/neu ymestyn y ddarpariaeth bresennol, ynghyd â nodi, gyda chymorth partneriaethau gofal plant, ardaloedd ar gyfer datblygu clybiau
- cefnogi clybiau newydd a phresennol a’u helpu i ddatblygu safonau ansawdd, gan gynnwys cefnogaeth ac anogaeth i gofrestru ag AGC
- nodi anghenion hyfforddi gofal plant all-ysgol a hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi gan gynnwys cymwysterau gwaith chwarae a datblygiad proffesiynol parhaus.
Mae’r sgiliau a phrofiad hanfodol yn cynnwys:
- gwybodaeth a dealltwriaeth o reoliadau, gofynion a deddfwriaeth arall gyfredol AGC, er enghraifft CCUHP, amddiffyn plant, diogelu, iechyd a diogelwch a chyfle cyfartal
- dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o faterion gofal plant a chwarae, a rôl Clybiau Gofal Plant All-Ysgol, o fewn yr agenda economaidd.