Digwyddiad Chwarae Cymru
Cynhadledd genedlaethol Chwarae Cymru 2027
Dyddiad
22 April 2027
Amser
I'w gadarnhau
Pris (aelod)
80
Pris (ddim yn aelod)
110
Trefnydd
Chwarae Cymru
Lleoliad
Gwesty'r Hilton, Caerdydd
Bydd y gynhadledd, a gynhelir yng ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd ar 22 Ebrill 2027, yn cynnwys rhaglen ysbrydoledig o brif siaradwyr, gweithdai a chyfleoedd i rwydweithio. Caiff cynadleddwyr gyfle i rannu profiadau, cyfnewid syniadau a chlywed gan arbenigwyr sy’n gweithio ar draws amrediad eang o sectorau sy’n cefnogi chwarae plant.
Mae’r gynhadledd yn dwyn gweithwyr proffesiynol ynghyd o bob cwr o Gymru, a thu hwnt. Mae’n gyfle datblygiad proffesiynol parhaus gwerthfawr i swyddogion digonolrwydd cyfleoedd chwarae, ymarferwyr gwaith chwarae a gofal plant, aelodau etholedig a gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd, addysg, teithio llesol, cynllunio a datblygu cymunedol.
Waeth os ydych chi’n anelu i ehangu eich gwybodaeth, darganfod ymarfer arloesol neu gysylltu gyda chydweithwyr o bob cwr o’r sector, mae cynhadledd genedlaethol Chwarae Cymru’n ddigwyddiad na ddylech ei fethu.
Archebwch eich lle heddiw i gael bargen cyw cynnar (ar gael tan 31 Rhagfyr 2026)!
Ffurflen archebu
I archebu eich lle, cwblhewch y ffurflen os gwelwch yn dda: