Archwiliwch
Mae partneriaeth Camu Allan yn ymgynghori â rhieni ac ymarferwyr am chwarae’r tu allan, i lywio a datblygu ei waith. Defnyddir yr adborth, sydd yn cael ei gasglu drwy arolwg ar-lein, i ddeall pa gymorth fyddai ymarferwyr a theuluoedd gyda phlant ifanc (hyd at bump oed) yn ei groesawu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a mannau yn yr awyr agored.
Wedi ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae’r bartneriaeth Camu Allan yn cynnwys Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Coram PACEY Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin, Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA Cymru), y Ganolfan Dechnoleg Amgen a Choed Lleol – Small Woods.