Cym | Eng

Digwyddiad arall

Hawliau Plant a Chyfranogiad ar gyfer Pobl Ifanc 11-25 oed

Dyddiad

23 Gorffennaf 2026

Amser

9:30am - 3:30pm

Pris (aelod)

Am ddim

Pris (ddim yn aelod)

Am ddim

Trefnydd

Plant yng Nghymru

Lleoliad

Ar-lein

Gan ddefnyddio gweithgareddau hwyliog ac atyniadol, bydd y cwrs hwn yn nodi’r fframwaith damcaniaethol a deddfwriaethol ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc yng Nghymru. Bydd hefyd yn cynnwys technegau ac offer ymarferol y gellir eu defnyddio’n uniongyrchol gyda pobl ifanc ar sail unigol a grŵp i’w cynnwys mor eang â phosibl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, gan gynnwys ymestyn eu rhan mewn gwneud penderfyniadau sefydliadol.

Amcanion dysgu:

  • Ennill dealltwriaeth o hawliau plant a phobl ifanc yng nghyd-destun Cymru
  • Archwilio beth mae ‘cyfranogiad’ yn ei olygu i bobl ifanc o wahanol oedrannau
  • Meddu ar ddealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau sy’n cefnogi gwaith sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc
  • Ennill sgiliau ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc
  • Archwilio rhwystrau i gyfranogiad ac atebion posibl
  • Deall sut i sefydlu a rhedeg fforwm ieuenctid
  • Datblygu cynllun gweithredu unigol i chi symud y gwaith hwn yn ei flaen.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors