Digwyddiad arall
Hawliau Plant a’r Blynyddoedd Cynnar
Dyddiad
30 Mehefin 2026
Amser
9:30am - 3:30pm
Pris (aelod)
Am ddim
Pris (ddim yn aelod)
Am ddim
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Bydd mynychwyr yn cael cyfle i archwilio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a dysgu sut mae’n berthnasol i fabanod a phlant ifanc.
Mae’r cwrs hyfforddi hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi’i anelu at ymarferwyr sy’n gweithio gyda babanod a phlant ifanc o dan saith oed neu gyda’u teuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys gofal plant, cymorth i deuluoedd, gwaith chwarae, gweithgareddau awyr agored a chelfyddydol.
Nodau:
- Deall beth yw CCUHP, sut mae’n cael ei weithredu a’i fonitro yng Nghymru
- Cael trosolwg o bolisïau blynyddoedd cynnar Cymru o fewn cyd-destun hawliau plant
- Deall sut mae hawliau’n berthnasol i fabanod a phlant ifanc
- Deall sut mae llais plentyn yn cael ei glywed yn y blynyddoedd cynnar
- Ymwybyddiaeth o offer a dulliau i’w defnyddio gyda babanod a phlant ifanc i gefnogi eu hawliau a’u llais.