Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Chwarae dros Gymru – rhifyn 66

Pwnc

Cylchgrawn

Dyddiad cyhoeddi

05.05.2026

Darllen yr adnodd

Chwarae dros Gymru – rhifyn 66

Hydref | Gaeaf 2025

Mae’r rhifyn hwn o’n cylchgrawn yn edrych ymlaen at llywodraeth nesaf Cymru, yn ogystal â dathlu’r gwaith da sy’n digwydd ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae’r neges gan blant ynghylch pam fod chwarae mor bwysig iddyn nhw yn un groch, clir a chryno. Maen nhw eisiau amser, lle a derbyniad oedolion i brofi enydau o chwarae bob dydd. Felly, mae’r rhifyn hwn yn cynnwys maniffesto chwarae gan blant Cymru gyda’i galwadau nhw i sicrhau bod gan bob plentyn ar draws y wlad ddigon o amser a mannau da i chwarae.

Mae’r rhifyn yn cynnwys erthyglau gydag enghreifftiau o waith sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru ar y pedair thema yn ein maniffesto:

  • Arweinyddiaeth strategol: crynodeb o sut y mae amryw o feysydd polisi a rhaglenni y llywodraeth yn anelu i gefnogi chwarae, sy’n arddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi chwarae plant
  • Cymdogaethau chwareus: dwy esiampl ysbrydoledig – o Ferthyr Tudful a Chasnewydd – o brosiectau sy’n cefnogi darpariaeth chwarae wedi ei leoli yn y gymuned
  • Ysgolion chwareus: trosolwg o brosiect Chwarae’r Tu Allan a Lles Tîm Chwarae Bro Morgannwg, wedi ei ddilyn gan syniadau o bethau i’w hystyried i gefnogi ymddygiad amser chwarae yn yr ysgol
  • Chwarae’n ystod adegau o ansicrwydd: esiamplau o brosiectau sy’n digwydd mewn llety dros dro a lleoliadau gofal iechyd i gefnogi cyfleoedd plant i chwarae yn y lleoliadau hyn.

Mae’r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys cyfweliad dan y chwyddwydr, popeth yr ydych angen ei wybod am Chwarae o Safon – ein marc ansawdd gwaith chwarae sydd newydd ei lansio, a’r diweddaraf am adolygiad y DU ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer gwaith chwarae.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Cylchgrawn | 26.09.2025

Chwarae dros Gymru – rhifyn 65 Chwarae dros Gymru – rhifyn 65

Rhifyn chwarae yn y gymdogaeth ein cylchgrawn

Gweld

Cylchgrawn | 30.04.2025

Chwarae dros Gymru – Rhifyn 64 Chwarae dros Gymru – Rhifyn 64

Rhifyn 'Cynllunio ar gyfer chwarae – cynnwys y plant' o'n cylchgrawn

Gweld

Cylchgrawn | 10.10.2024

Chwarae dros Gymru – Rhifyn 63 Chwarae dros Gymru – Rhifyn 63

Rhifyn 'Chwarae yn y blynyddoedd cynnar' o'n cylchgrawn

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors