Digwyddiad arall
Gweminar Llais Rhieni ar draws y Bedair Cenedl
Dyddiad
23/10/2024
Amser
10:00am - 11.30am
Pris (aelod)
Am ddim
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
I ddathlu Wythnos Magu Plant, ymunwch â Plant yng Nghymru am weminar yn cynnwys siaradwyr allweddol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Bydd Plant yng Nghymru yn rhannu’r hyn y mae rhieni’n ei ddweud iddynt am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu. Bydd y gweminar hefyd yn archwilio themâu o’r pedair cenedl, sef Gogledd Iwerddon, Cymru, yr Alban a Lloegr. Yn ogystal, bydd sesiwn holi ac ateb i drafod ffyrdd ymlaen ar gyfer cefnogi teuluoedd.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys trosolwg a fideo o ganlyniadau cystadleuaeth ffotograffau lle ofynwyd i rieni anfon ffotograffau i rannu’r hyn sy’n gwneud eu teuluoedd nhw’n unigryw neu’n arbennig.
Bydd y gweminar yn cael ei gadeirio gan Koulla Yiasouma, a oedd yn Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon o Ionawr 2015 i Fawrth 2023. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda chyrff anllywodraethol, cymunedau, gwleidyddion a chynrychiolwyr llywodraethau ledled Iwerddon a’r Deyrnas Unedig. Hi yw Prif Swyddog Gweithredol interim Parent Focus, Gogledd Iwerddon, ar hyn o bryd.
Bydd siaradwyr yn cynnwys:
- Amy Woodhouse, Prif Swyddog Gweithredol, Parenting Across Scotland
- ParentKind, Lloegr
- Parent Focus, Gogledd Iwerddon
- Cyswllt Rhieni Cymru