Digwyddiad arall
Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth: Cefnogi Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Dyddiad
13 Gorffennaf 2026
Pris (aelod)
£140
Pris (ddim yn aelod)
£140
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Mae’r cwrs undydd hwn yn rhoi dealltwriaeth glir ac ymarferol i staff rheng flaen o niwroamrywiaeth a sut mae’n ymddangos mewn plant a phobl ifanc. Mae’r sesiwn yn archwilio adnabod yn gynnar, cyflyrau sy’n cyd-ddigwydd, cysylltiadau iechyd meddwl a sut i symud y tu hwnt i lens un diagnosis i weld y plentyn cyfan.
Bydd cyfranogwyr yn dysgu strategaethau cynhwysol, sy’n seiliedig ar gryfderau, i gefnogi plant a theuluoedd niwroamrywiol, gwella cyfathrebu, a gweithio’n effeithiol ar draws gwasanaethau, ysgolion a systemau gan gynnwys Diwygio ADY a Chwricwlwm Cymru.
Anelir y cwrs hwn at staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd — yn enwedig y rhai sy’n cefnogi unigolion niwroamrywiol neu sydd eisiau mwy o hyder wrth adnabod anghenion, cynnig cefnogaeth a chyfeirio’n effeithiol.