Cym | Eng

Swyddi Sector

Swyddog Hyfforddi

Mudiad: Plant yng Nghymru

Lleoliad: hybrid – gweithio ystwyth o gartref ac yn y swyddfa yng Nghaerdydd

Oriau: 28 awr yr wythnos – yn ystod tymor ysgol yn unig

Cyflog: £21,536.28 y flwyddyn (cyfwerth ag amser llawn £35,893.80)

Dyddiad cau: 29 Ebrill 2026 (12:00pm)

Dyddiad cyfweliad: 13 Mai 2026

Tymor penodol hyd at ddiwedd 31 Mawrth 2027

Mae Plant yng Nghymru yn recriwtio hyfforddwr profiadol a bydd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant effeithiol o ansawdd uchel. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant diogelu i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda babanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru, a chynnwys arall sy’n gysylltiedig â’r sector plant.

Bydd y Swyddog Hyfforddi, gan weithio o fewn tîm, yn chwilio’n rhagweithiol am gyfleoedd newydd i ddatblygu’r rhaglen hyfforddi ymhellach a sicrhau bod ei chynnwys yn adlewyrchu amcanion strategol Plant yng Nghymru mewn perthynas â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), a deddfwriaeth berthnasol.

Bydd hyfforddiant yn digwydd yn rhithwir ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ledled Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors