Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Our Work

Prosiectau ac ymgyrchoedd

Trosolwg o’n prosiectau a’n ymgyrchoedd i gefnogi hawl plant i chwarae yng Nghymru. 

Er mwyn eiriol dros chwarae plant yng Nghymru, rydym yn datblygu a throsglwyddo ystod eang o brosiectau ac ymgyrchoedd sy’n:

  • cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant 
  • eiriol dros hawl plant i chwarae 
  • arddangos arfer gorau 
  • archwilio’r posibilrwydd o ailadrodd enghreifftiau penodol mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. 

Mae rhai o’n prosiectau a’n hymgyrchoedd yn rhai parhaus. Mae eraill yn rhai tymor byr. Gallant fod yn ddibynnol ar gyllido.

Ar rai prosiectau, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill. Yn ogystal, cawn ein hariannu neu ein contractio weithiau i gynnal prosiectau ar ran ein sefydliadau partner. Ond, waeth sut gaiff ein prosiectau a’n hymgyrchoedd eu sefydlu, maent bob amser yn cefnogi cyfleoedd plant i chwarae. 

Dyma enghreifftiau o rai o’n hymgyrchoedd a’n prosiectau cyfredol a diweddar. 

Ymgyrchoedd 

Plentyndod Chwareus (2018 ymlaen)

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch sy’n anelu i helpu rhieni, gofalwyr a grwpiau cymunedol i gefnogi chwarae plant. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod plant yn cael yr amser, y lle a’r gefnogaeth y maent eu hangen i allu chwarae gartref ac yn eu cymdogaeth. Fe wnaethom greu’r ymgyrch er mwyn: 

  • i rieni allu rhoi cyfleoedd i’w plant chwarae 
  • i rieni allu teimlo’n hyderus ynghylch gadael i’w plant chwarae’r tu allan yn eu cymuned 
  • i gymunedau chwareus i blant allu datblygu ledled Cymru 
  • i bob oedolyn ar hyd a lled Cymru ddatblygu dealltwriaeth gytûn am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau.

Mae gan yr ymgyrch ei gwefan ei hun sy’n llawn adnoddau defnyddiol ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd. 

Rydym yn hyrwyddo gwefan Plentyndod Chwareus i rieni a phobl sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd trwy gydol y flwyddyn. O dro i dro, byddwn hefyd yn cynnal ymgyrchoedd tymor byr wedi’u targedu. Mae’r rhain yn cynyddu proffil Plentyndod Chwareus ac yn dwyn materion penodol i sylw’r gynulleidfa darged a’r cyfryngau. 

Rydym yn datblygu ein hymgyrchoedd tymor byr gyda mewnbwn gan blant a rhieni o bob cwr o Gymru. Rydym yn ddiolchgar i’n sefydliadau partner ar draws Cymru sy’n gweithio gyda ni i drosglwyddo’r ymgyrchoedd hyn. 

Mae enghreifftiau diweddar o’r ymgyrchoedd tymor byr hyn yn cynnwys:

  • Amser i Chwarae (Haf 2022) – ymgyrch sy’n rhoi anogaeth a chefnogaeth i rieni a gofalwyr i roi mwy o amser i’w plant chwarae 
  • ‘Pan o’n i dy oed di’ (Gwanwyn 2022) – ymgyrch sy’n herio rhagdybiaethau am ymddygiad plant yn eu harddegau mewn mannau cyhoeddus.

Arianwyd datblygiad gwefan Plentyndod Chwareus gan sefydliad Transform.

 

Prosiectau

Prosiect Llysgenhadon Chwarae (2019-2023)

Mae’r Llysgenhadon Chwarae Cymunedol yn brosiect a gynhaliwyd ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Roedd yn cynnwys gweithio gyda phobl leol i sefydlu Fforymau Chwarae Cymdogaethau fyddai’n dynodi ffyrdd o annog cyfleoedd rheolaidd i blant chwarae. 

Fe wnaeth y prosiect hefyd gefnogi pobl ifanc 14 i 19 oed i ddod yn Llysgenhadon Chwarae Cymunedol gwirfoddol. Fe wnaeth hyn trwy gynnig hyfforddiant, cymwysterau a chyfleoedd profiad gwaith mewn lleoliadau gwaith chwarae. 

Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, fe wnaethom weithio mewn partneriaeth gydag:

  • Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
  • Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro / Tîm Lleol Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru 
  • Re-create
  • Tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Bro Morgannwg.


Gobeithiwn y bydd y gwersi a ddysgwyd trwy’r prosiect yn ein helpu i ddatblygu prosiectau tebyg mewn ardaloedd eraill yn y dyfodol.

Arianwyd y prosiect hwn trwy’r Gronfa Iach ac Egnïol (HAF).

Llyfrau stori hawl i chwarae (2019-2023)

Rydym wedi cyhoeddi tri llyfr stori i blant sy’n dathlu hawl plant i chwarae. Mae’r tri llyfr, Hwyl yn y dwnjwn, Hwyl yn yr ardd, a Hwyl ar iard yr ysgol, wedi eu datblygu mewn partneriaeth â chyhoeddwr cymunedol hirsefydlog. 

Ffurfiwyd grwpiau ysgrifennu straeon, yn cynnwys plant, rhieni a staff sy’n gweithio gyda phlant. Fe’u cefnogwyd gan awdur a bardd i helpu i ddatblygu pob un o’r llyfrau stori hyn. Rhannwyd eu syniadau gyda’n darlunydd, a ddaeth â’u straeon yn fyw gyda’i gartwnau chwareus.  

Mae’r llyfrau stori’n crynhoi pa mor bwysig yw oedolion ac amgylcheddau cefnogol a goddefgar wrth helpu plant i fwynhau eu hawl i chwarae.  

Ond copïau o Hwyl ar iard yr ysgol sydd ar gael ar hyn o bryd. Os hoffech chi archebu copi am ddim, ebostiwch ni

Prosiect RPlace 

Fel rhan o ymchwil parhaus ar y cyd, fe wnaethom weithio gyda phrosiectau ymchwil  HAPPEN ac ACTIVE a leolir ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu ap RPlace. 

Mae’r ap hwn yn helpu plant a phlant yn eu harddegau i ymuno yn y gwaith o fapio eu cymunedau. Mae’n caniatáu iddynt:

  • raddio
  • argymell
  • lanlwytho lluniau 
  • ychwanegu lleoliadau

o fannau ble maent am i newid ddigwydd. Gall plant a phlant yn eu harddegau rannu eu meddyliau am yr hyn maent yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi am ble maen nhw’n byw, chwarae a mynd iddynt gyda’u ffrindiau. Gallant hefyd nodi eu barn am yr hyn sydd angen ei wella.

 

 

Gwaith gyda byrddau iechyd lleol 

Rydym wedi gweithio gyda nifer o fyrddau iechyd lleol, yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a thîm Iechyd y Cyhoedd Cwm Taf Morgannwg. Gyda’n gilydd, fe wnaethom ymchwilio a pheilota strydoedd chwarae a’r defnydd o diroedd ysgolion ar gyfer chwarae. Fe wnaeth hyn gynnwys:

  • cefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt ystyried cyflwyno rhaglenni strydoedd chwarae 
  • gweithio gyda sefydliadau i gau strydoedd lleol am gyfnod cyfyngedig er mwyn galluogi cymunedau i roi tro ar strydoedd chwarae 
  • gweithio gydag ysgolion i gynnal dadansoddiad o’r gwahanol opsiynau ar gyfer hwyluso chwarae ar ôl ysgol 
  • sicrhau cyllid ar gyfer darparu storfeydd ac offer ar gyfer chwarae ar ôl ysgol. 

Fe wnaethom hefyd weithio gyda Thîm Iechyd Cyhoeddus Aneurin Bevan Gwent i gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae. Fe wnaethom hyn trwy drosglwyddo digwyddiadau dysgu proffesiynol, yn cynnwys:

  • Gweminar am chwarae ac iechyd y cyhoedd 
  • Gweminar am gefnogi rheini i ddeall chwarae
  • Gweminar am ddeall digonolrwydd chwarae
  • Gweithdai rhanbarthol am ddefnyddio tiroedd ysgolion ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau ysgol.
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors